Saturday 20 April 2013

Snwcer, peldroed a ceffylau


Tra dwi yn gweithio yng nghynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol (11 o’r gloch, S4C) Dros y penwythnos mi gewch ddigon o hwyl a sbri. Na, ddim yn y gynhadledd ond yn y byd chwaraeon.

Caerdydd yw tîm yr wythnos  maent wedi sicrhau chwarae yn y 'Premier' flwyddyn nesaf. Nawr er mwyn tan linellu eu llwyddiant, mynd i fyny fel pencampwyr yw’r nod.  Felly bydd buddugoliaeth neu gem gyfartal yn Burnley yn sicrhau'r cyfan.  Dau dîm o Gymru ar Match of the Day flwyddyn nesaf dyna rywbeth i godi calon rhywun.

Abertawe gartref i Southampton. Mae Abertawe heb ennill yn y pedwar gem ddiwethaf ac mae Southampton wedi gwella ers i Mauricio Pochettino ymuno a’r clwb yn Ionawr. Bydd yn gobeithio am ennill am y chweched gwaith yn elynol. Bydd rhaid i Abertawe fod ar eu gorau


Bangor y trydydd yng nghynghrair Cymru yn ymweld â Airbus sy’n ail.

Pencampwriaeth snwcer y byd yn dechrau  heddiw yn y Crucible, Sheffield.  Mae hon yn farathon yn para 17 diwrnod. Mi gewch weld y cyfan ar y BBC yn ddyddiol.  Ronnie O’Sullivan bydd yn amddiffyn ei deitl.  32 chwaraewr.  Trio o’r gorau Sullivan wrth gwrs ond mae John Higgins yn ôl ar ei orau  a Judd Trump.  John Higgins dwi yn ffansio.
Mae yna gwrthdaro Cymraeg heno am 7 rhwng Mark Williams a Michael White. Profiad Williams yn erbyn brwdfrydedd White.

Mae’r Cymro dawnus Nathan Clevererly yn amddiffyn ei WBO deitl am y pumed tro heno yn erbyn Robin  Krasniqi. Mi ddyla’ Clevererly deilio ar heriwr yn rhwydd. 

Nawr am y rasys. I gyd fel yr arfer ar Sianel 4 Lloegr.
Cwestiwn mawr y diwrnod a all  Auroras Encore  a’i joci Ryan Mania gwneud y dwbl trwy ennill Crand National yr Alban. Mae 'na ddigon yn dweud bod hi’n bosib ond nid y tipiwr yma. 

Ayr 
2.05 Tap Night/Changing Times
2.40 Grumeti/Court Minstrel
3.15 Sacre Toi/Bocciani
3.50 Y Grand National Monsieur Cadou/Big Occasion/Auroras Encore

Newbury
1.50 Model Pupil/ Universal
2.20 Educate/Guest of Honour
2.55 Rosdhu Queen/Maureen
3.30 Olympic Glory/Moohaajim

No comments:

Post a Comment